Osian

  • by

Dechreuodd Osian ar ei yrfa gyda chwmni cyfieithu mawr. Bu’n gweithio wedyn ym maes polisi iaith a chydymffurfiaeth, cyn dychwelyd i gyfieithu yn y sector breifat. Mae’n un o gyfieithwyr ar y pryd y cwmni ac wedi cymhwyso fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae’n mwynhau amrywiaeth y gwaith gyda chwmni Nico, gan gynnwys gweithio gyda chleientiaid ym maes y celfyddydau, addysg a’r trydydd sector.