Rydyn ni’n dîm cyfeillgar a phroffesiynol sy’n mwynhau ein gwaith. Mae bod yn hyblyg ac ymatebol yn ganolog i’n ffordd ni o weithio, ac mae ein profiad helaeth o’r byd iaith a pholisi yn golygu ein bod yn deall yr hyn sy’n bwysig i chi.

    Nia

    Nia@nico.cymru

    Cyn dyddiau Nico, bu Nia’n gweithio fel golygydd, uwch gyfieithydd ac uwch swyddog polisi a chydymffurfio. Mae hi bellach yn arwain ar waith polisi ac ymchwil, ac yn mwynhau cyfieithu ar y pryd a chyfieithu amrywiaeth o destunau – o ddatganiadau i’r wasg i adroddiadau corfforaethol.

    Carwyn

    Carwyn@nico.cymru

    Dechreuodd Carwyn ei yrfa fel cyfieithydd yn y sector cyhoeddus dros ddegawd yn ôl. Erbyn hyn, mae’n ymddiddori ym meysydd cyfieithu deddfwriaethol/cyfreithiol a thechnoleg gwybodaeth, ac yn mwynhau helpu ein cleientiaid i ddarparu gwefannau dwyieithog i’w cwsmeriaid.

    Osian

    Osian@nico.cymru

    Dechreuodd Osian ar ei yrfa gyda chwmni cyfieithu mawr. Bu’n gweithio wedyn ym maes polisi iaith a chydymffurfiaeth, cyn dychwelyd i gyfieithu yn y sector breifat. Mae’n un o gyfieithwyr ar y pryd y cwmni ac wedi cymhwyso fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae’n mwynhau amrywiaeth y gwaith gyda chwmni Nico, gan gynnwys gweithio gyda chleientiaid ym maes y celfyddydau, addysg a’r trydydd sector.

    Eiri

    Eiri@nico.cymru

    Cyn ymuno â Nico, bu Eiri’n gweithio fel cyfieithydd yn y sector cyhoeddus i gorff Llywodraethol y Deyrnas Unedig. Erbyn hyn, mae Eiri’n mwynhau cyfieithu pob math o destunau, boed rheiny’n ddarnau technegol neu academaidd i waith marchnata a chreadigol. Ynghyd â chyfieithu, mae Eiri’n diwtor Cymraeg i Oedolion cymwys.