Cyn ymuno â Nico, bu Eiri’n cyfieithu yn y sector cyhoeddus i gorff llywodraethol. Erbyn hyn, mae Eiri’n mwynhau cyfieithu pob math o destunau, boed rheiny’n ddarnau technegol neu academaidd i waith marchnata, cyfryngau cymdeithasol a gwaith mwy creadigol. Ynghyd â chyfieithu, mae Eiri’n diwtor Cymraeg i Oedolion cymwys.
