Dyma ein rhestr o’r prif bwyntiau sydd eu hangen arnoch chi i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd ganddoch chi ac i ragori ychydig ar hynny! Mae ein cleientiaid yn amrywio o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, ond mae pawb yn hoffi cynllun call ac ychydig o synnwyr cyffredin.
Seiliau cadarn
Nodi unrhyw ofynion statudol a rheoleiddiol – oes rheidrwydd statudol arnoch chi i gynnig gwasanaethau dwyieithog? Hyd yn oed os nad oes dyletswydd gyfreithiol arnoch chi, gall y canllawiau a’r arferion da sy’n bodoli ar gyfer cyrff cyhoeddus eich helpu i gynllunio’n effeithiol ac yn ystyrlon i’ch sefydliad chi.
Diffinio anghenion eich cwsmeriaid – ydych chi’n gwybod beth yw anghenion a disgwyliadau eich cwsmeriaid? Ewch ati i adnabod yr anghenion cudd sy’n bodoli, a ble mae angen i chi ganolbwyntio’ch ymdrechion.
Dadansoddi eich gallu presennol – dylech nodi unrhyw fylchau yn eich capasiti i ateb anghenion eich cwsmeriaid fel bod ganddoch chi sylfaen gadarn ar gyfer cynllunio eich strategaeth.
Denu’r bobl iawn
Gofynion eglur – cyn recriwtio, dylech amlinellu’r sgiliau iaith sydd eu hangen ar gyfer swyddi a rolau yn seiliedig ar eich dadansoddiad o anghenion a gallu, fel bod ganddoch chi syniad eglur o ba lefel o sgiliau sydd eu hangen.
Gwerthoedd y sefydliad – gadewch i bobl wybod pa mor bwysig yw’r Gymraeg i’ch sefydliad, er mwyn i siaradwyr Cymraeg deimlo y cânt eu gwerthfawrogi a’u bod am weithio i chi!
Dulliau recriwtio – gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r dulliau recriwtio mwyaf addas. Byddwch yn hyblyg a gwnewch eich gwaith cartref ar sut i gyfathrebu orau â’r farchnad lafur Gymraeg.
Cadw a datblygu
Cryfderau’r gweithlu – dylech nodi a gwerthuso sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol. Dylech sicrhau bod gwerth y sgiliau hyn yn eglur i bawb ac annog pobl i ddysgu Cymraeg ac i wella eu sgiliau.
Cydnabyddiaeth – gwnewch yn siŵr bod staff dwyieithog yn teimlo bod eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi gan roi cydnabyddiaeth iddynt mewn arfarniadau ac mewn adborth yn gyffredinol.
Gweithlu’r dyfodol – gwnewch yn siŵr eich bod yn creu cysylltiadau da i ddenu gweithlu’r dyfodol i’ch sefydliad chi drwy bartneriaethau gydag ysgolion Cymraeg a cholegau lleol.
Cymorth a chefnogaeth
Meddalwedd ac adnoddau i weithlu dwyieithog – mae amrywiaeth o adnoddau ar gael (llawer ohonynt am ddim!), o ddysgu Cymraeg yn y gweithle, geirfaon, gwirwyr sillafu i gyfieithu peirianyddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael.
Hyfforddiant – yn ogystal â manteisio ar adnoddau, gwnewch yn siŵr bod pob aelod o staff yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith er mwyn deall pa mor werthfawr yw darpariaeth ddwyieithog i’ch cwsmeriaid.
Hyrwyddwyr – dylech bennu hyrwyddwyr a mentoriaid oddi mewn i’r gweithlu i annog a chefnogi’r rhai sy’n siarad Cymraeg ac sy’n dysgu Cymraeg, a sicrhau bod eich ethos dwyieithog yn cael ei gynnal mewn ffordd gadarnhaol ym mhob rhan o’r sefydliad.
Gobeithio bod yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol i chi – yn amlwg mae llawer mwy ohonynt, ond mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech fwy o wybodaeth neu air o gysur! (Mae cryn dipyn o gyngor ac arweiniad ar wefan Comisiynydd y Gymraeg ar y pwnc hwn a llawer mwy.)