Gwasanaethau cyfieithu a chyngor polisi iaith
Un cwmni cyfeillgar ar gyfer eich holl anghenion iaith
Cyfieithu
Cyfieithu ar y pryd
Polisi iaith
Cymraeg yn y gwaith
Cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
Gwasanaeth proffesiynol a dibynadwy sy’n ymateb i’ch anghenion chi
Mae gan gyfarwyddwyr Nico dros hanner can mlynedd o brofiad ym maes cyfieithu a chyfieithu ar y pryd i amrywiaeth eang o gleientiaid a sectorau.
Fel aelod corfforaethol o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, mae gennym enw da am gywirdeb a phrydlondeb, yn ogystal â’n hagwedd greadigol at ein gwaith er mwyn bodloni anghenion ein cleientiaid a’u cynulleidfaoedd.
Cysylltwch â ni am wybodaeth am ein pecynnau amrywiol.
Gwaith polisi a chynllunio ieithyddol
CYNGOR AC ARWEINIAD YMARFEROL AR WAITH POLISI A’R GYMRAEG
Mae profiad blaenorol ein cyfarwyddwyr fel swyddogion polisi yn ogystal â chyfieithu yn golygu bod gennym ddealltwriaeth lawn o’r gofynion statudol a pholisi sy’n wynebu ein cleientiaid o ran y Gymraeg. Yn ogystal â darparu cyfieithiadau o ansawdd, gallwn gynnig cymorth ymarferol i’n cleientiaid ar faterion polisi a chydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg. Gallwn ddarparu adroddiadau gwerthuso a sicrwydd, dogfennau cyngor ac ymchwil ar sawl agwedd yn ymwneud â pholisi a defnydd iaith.
Cymraeg yn y gwaith
GWERSI CYMRAEG A GLOYWI IAITH AR GYFER POB LEFEL
Mae gennym diwtoriaid Cymraeg i Oedolion cymwys yn rhan o’n tîm, sy’n gallu cynnig tiwtora pwrpasol ac anffurfiol i grwpiau ac unigolion, o ddechreuwyr i wersi gloywi iaith.
Gallwn fod yn hyblyg gyda’n gwersi Cymraeg er mwyn gweddu i’ch anghenion chi. Rydyn ni’n hapus i drafod er mwyn gweld beth sydd orau i chi, boed hynny’n wersi wyneb yn wyneb, ar Skype, neu ar ffurf e-weithdy.