Telerau Gwasanaeth
Adolygwyd ddiwethaf: Awst 24, 2021
Diffiniadau
At ddiben y Telerau ac Amodau hyn, mae “y Cwmni”, “Nico”, “ni” ac “ein” yn cyfeirio at Nico (iaith) cyf, rhif cwmni 09022938, y mae ei swyddfa gofrestredig yn 18 Chargot Road, Llandaf, Caerdydd CF5 1EW, sy’n masnachu fel Nico, ac mae “Cleient” neu “chi” yn cynrychioli’r cwmni, busnes, corff, sefydliad, neu unigolyn sy’n contractio Nico i ddarparu gwasanaeth(au) ar ei ran.
Diffinnir “Cytundeb” fel y cytundeb rhwng y Cleient a’r Cwmni sy’n cael ei reoli gan y Telerau ac Amodau.
Ystyr “Telerau ac Amodau” yw’r telerau ac amodau hyn.
Ystyr “Archeb” yw cais sydd wedi’i gadarnhau gennych chi am ein Gwasanaethau.
Ystyr “Gwasanaethau” yw gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd a gaiff eu darparu gennym ni i chi.
Ystyr “deunyddiau gwaith” yw unrhyw wybodaeth a gaiff ei chyfleu neu ei throsglwyddo i ni gennych chi er mwyn cyflawni’r Gwasanaethau a nodir yma.
Ystyr “Gwybodaeth Gyfrinachol” yw gwybodaeth (ar unrhyw ffurf) sy’n gyfrinachol i chi neu i ni, ac sy’n cael ei datgelu i ni gennych chi neu rydym ni’n ei datgelu i chi, sy’n gysylltiedig â’r Gwasanaethau.
Ystyr “Cyfieithydd” yw unrhyw gyfieithydd, cyfieithydd ar y pryd neu unrhyw weithiwr iaith proffesiynol medrus arall a gaiff ei gyflenwi gan Nico i gyflawni ein darpariaeth o Wasanaethau.
Ystyr “Lleoliad” yw unrhyw leoliad, adeilad neu ystafell benodol y mae Nico wedi cynnig dyfynbris i gyflenwi cyfarpar neu gyfieithwyr ar ei gyfer.
Ystyr “Digwyddiad” yw unrhyw ddigwyddiad, cyfarfod, aseiniad, sesiwn recordio neu achlysur arall y mae Nico wedi cynnig dyfynbris i gyflenwi cyfarpar neu gyfieithwyr ar ei gyfer.
Ystyr “ysgrifenedig” yw gohebiaeth ysgrifenedig a gyflwynir drwy’r post, ffacs neu e-bost.
Wrth gyflwyno Archeb, mae’r Cleient yn ymrwymo i Gytundeb gyda’r Cwmni, sydd wedi’i gwmpasu gan y Telerau ac Amodau canlynol:
1. CYMHWYSIAD
1.1. Ni fydd unrhyw delerau ac amodau ar wahân i’r rhai a nodir yma nac unrhyw amrywiad arnynt yn rhwymo’r Cwmni oni chytunir yn benodol fel arall yn ysgrifenedig gan un o gyfarwyddwyr y Cwmni. Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu hymgorffori ym mhob dyfynbris, derbyniad a chontract am waith gennym yn ddarostyngedig i’r uchod; mae unrhyw delerau neu amodau a gynigir gan y Cleient yn cael eu heithrio drwy hyn.
2. Y DEFNYDD Y BWRIEDIR EI WNEUD O WASANAETHAU CYFIEITHU
2.1. Rhaid i’r Cleient nodi’n glir yn ysgrifenedig y defnydd y bwriedir ei wneud o’r cyfieithiad.
2.2. Os bydd y Cleient am ddefnyddio cyfieithiad at ddiben ar wahân i’r hyn y’i darparwyd yn wreiddiol ar ei gyfer, rhaid i’r Cleient gael cadarnhad ysgrifenedig gan y Cwmni bod y cyfieithiad yn addas at y diben newydd arfaethedig. Mae’r Cwmni’n cadw’r hawl i ddiwygio ac addasu, ar gost y Cleient, y cyfieithiad a gyflenwyd yn flaenorol, os oes angen, at ei ddiben newydd.
2.3. Pan nad yw pwrpas y cyfieithiad wedi’i ddatgelu i’r Cwmni, bydd y Cwmni’n parhau â’r cyfieithiad fel pe bai er gwybodaeth yn unig.
3. DYFYNBRISIAU
3.1. Nid yw dyfynbrisiau’n rhwymo’r Cwmni a chânt eu rhoi yn amodol ar gadarnhad gan y Cwmni ar ôl derbyn archeb y Cleient. Ni fydd unrhyw Gytundeb yn cael ei gwblhau nes y rhoddir cadarnhad o’r fath. Mae dyfynbrisiau ysgrifenedig yn parhau’n ddilys am 30 diwrnod ar ôl eu dosbarthu a byddant yn darfod wedi hynny oni nodir yn wahanol yn ysgrifenedig.
3.2. Rhoddir dyfynbrisiau ar sail disgrifiad y Cleient o’r deunydd ffynhonnell, pwrpas y cyfieithiad ac unrhyw gyfarwyddiadau eraill. Gellir diwygio dyfynbrisiau o’r fath ar unrhyw adeg os, yn ein barn ni, bod y disgrifiad o’r deunyddiau ffynhonnell yn sylweddol annigonol neu os caiff unrhyw newidiadau eu gwneud i’r deunydd gan y Cleient tra bod y gwaith cyfieithu yn mynd rhagddo.
3.3. Caiff amcanbrisiau eu rhoi fel arweiniad neu er gwybodaeth yn unig, ac ni ddylid ystyried eu bod yn rhwymol yn gytundebol.
4. TALU
4.1. Oni nodir yn wahanol, mae’r prisiau mewn punnoedd sterling ac nid ydynt yn cynnwys treth ar werth. Byddwn yn eich anfonebu am yr holl drethi a threuliau priodol yr ydym yn atebol i’w casglu.
4.2. Gofynnir am daliad drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, e.e. BACS neu CHAPS, oni nodir yn wahanol yn ysgrifenedig ar yr anfoneb. Mae modd gwneud taliadau drwy siec hefyd. Rhaid i bob taliad gael ei wneud heb ddidynnu na neilltuo unrhyw ffioedd banc.
4.3. Pan fydd cyfrifon credyd yn cael eu hagor ar gyfer Cleient, mae’n rhaid derbyn taliad o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y cyhoeddir yr anfoneb oni chytunir yn benodol yn ysgrifenedig gan un o gyfarwyddwyr y Cwmni.
4.4. Heb leihau effaith hawliau eraill y Cwmni, rydym yn cadw’r hawl i godi tâl gwasanaeth sy’n gyfwerth â 5% y mis ar y swm sy’n weddill ar ôl y dyddiad dyledus i dalu costau ariannol a gweinyddol. Os bydd angen i ni ddefnyddio gwasanaethau asiantiaid adennill dyledion, caiff gordal am dalu ffioedd asiantiaid o’r fath ei ychwanegu at y swm dyledus sydd heb ei dalu i adennill y costau.
4.5. Bydd methiant i dalu unrhyw anfoneb yn unol â’r Telerau ac Amodau hyn neu unrhyw rai eraill a bennir yn ysgrifenedig ar y pryd, yn rhoi’r hawl i ni atal gwneud rhagor o waith ar yr un archeb, ac ar unrhyw archeb arall gennych chi, heb leihau effaith unrhyw hawl arall sydd gennym.
5. CYFLWYNO
5.1. Dim ond ar ôl i’r Cyfieithydd weld neu glywed yr holl ddeunydd ffynhonnell i’w gyfieithu a derbyn cyfarwyddiadau llawn ysgrifenedig gan y Cleient y bydd unrhyw ddyddiad neu ddyddiadau cyflwyno y cytunwyd arnynt rhwng y Cyfieithydd a’r Cleient yn dod yn rhwymol.
5.2. Ni fydd y dyddiad cyflwyno’n hanfodol oni chytunir yn benodol yn ysgrifenedig.
5.3. Oni chytunir yn wahanol, bydd y Cyfieithydd yn anfon y cyfieithiad yn y fath fodd fel y gall y Cleient ddisgwyl yn rhesymol ei dderbyn heb fod yn hwyrach na diwedd amser busnes arferol safle’r Cleient ar y dyddiad cyflwyno.
6. GWAITH BRYS
6.1. Er y gellir codi gordal brys am waith cyfieithu brys, ac oherwydd y gall anghenraid brys ar gais y Cleient nacáu’r amser angenrheidiol i wirio a golygu’r cyfieithiad, ni fydd y Cwmni’n derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw waith a gyflwynir ar frys.
7. CANSLO A GOHIRIO
7.1. Os bydd y Cleient, am unrhyw reswm, yn canslo, yn atal neu’n gohirio gwaith sydd wedi’i gomisiynu, codir tâl am yr holl waith sydd wedi’i gwblhau hyd at ddyddiad ei ganslo, ei atal neu ei ohirio ac am yr holl gostau a threuliau eraill a allai fod wedi deillio o ganlyniad i ganslo’r gwaith.
7.2. Mae telerau canslo gwasanaethau cyfieithu ar y pryd i’w gweld yn adran 16.1.
8. ATEBOLRWYDD
8.1. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y Cwmni yn atebol i’r Cleient am unrhyw: (i) golled o ran elw; (ii) colled o ran busnes; (iii) colled o ran refeniw; na (iv) cholled anuniongyrchol neu ganlyniadol; sy’n deillio yn sgil neu mewn cysylltiad â’r Cytundeb, y Gwasanaethau nac unrhyw Archeb.
8.2. Yn amodol ar gymal 8.1 ac i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd atebolrwydd cyfanredol y Cwmni mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, sut bynnag y bo’n codi, yn sgil neu mewn cysylltiad â’r Cytundeb hwn yn fwy na’r pris a delir gan y Cleient i’r Cwmni am y Gwasanaethau yn y 12 mis yn union cyn i’r atebolrwydd godi.
8.3. Ni fydd y Cwmni’n atebol i’r Cleient am gamliwio diniwed neu esgeulus yn rhinwedd unrhyw ddatganiad a wneir gennym ni neu ar ein rhan cyn y Cytundeb, boed hynny ar lafar neu’n ysgrifenedig, ac ni fydd hawl gennych i ddiddymu’r Cytundeb ar sail unrhyw gamliwio o’r fath.
8.4. Os bydd y Cleient yn defnyddio gwaith at ddiben heblaw’r defnydd y cafodd ei gyflenwi ar ei gyfer, ni fydd gan y Cleient hawl i gael iawndal gan y Cwmni.
8.5. Mae’r Cleient yn cydnabod na ellir gwarantu y bydd unrhyw ddeunyddiau a gyflwynir gan y Cwmni ac i’r Cwmni dros y rhyngrwyd yn rhydd o’r risg o gael ei ryng-gipio, hyd yn oed os caiff ei drosglwyddo ar ffurf sydd wedi’i hamgryptio, ac nad oes unrhyw atebolrwydd ar y Cwmni am unrhyw ddeunyddiau sydd wedi mynd ar goll, eu llygru neu eu rhyng-gipio.
Gwaith cyfieithu:
(i) Er y bydd y Cwmni’n ymdrechu i gynhyrchu cyfieithiad cywir ac idiomatig o’r testun gwreiddiol, mae’r Cleient yn derbyn y gall cyfieithiad ddarllen yn wahanol i’r testun da gwreiddiol ac felly ni fydd y Cwmni’n atebol am unrhyw ddiffyg effaith honedig o ran hysbysebu neu werthiannau.
(ii) Ni fydd y Cwmni’n atebol am unrhyw wallau wrth drosi o un system fesur i’r llall, am drawslythrennu enwau ac enwau priod eraill o un sgript i’r llall nac am gyfieithu talfyriadau, ni fyddwn chwaith yn atebol am wallau sy’n deillio yn sgil aneglurder unrhyw ddeunydd a gyflenwir gennych chi nac am unrhyw golled neu ddifrod dilynol.
9. MATERION ANGHYFREITHLON
9.1. Mae’r Cleient yn gwarantu nad yw’r gwaith i’w gyfieithu yn torri unrhyw hawlfraint nac hawliau perchenogol eraill ac nad yw’n cynnwys unrhyw beth o natur anweddus, gableddus nac enllibus a bydd yn indemnio’r Cwmni am bob achos, hawliad, gweithdrefn, costau a iawndal a gafwyd neu a ddyfarnwyd ac a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw achos, neu sy’n deillio o unrhyw achos o dorri gwarant o’r fath neu unrhyw hawliad gan drydydd parti ar sail unrhyw ffeithiau a fyddai, o’u cadarnhau, yn gyfystyr â thorri gwarant o’r fath.
10. CYNRYCHIOLAETH
10.1. Ni fydd cynrychiolaeth lafar o ddatganiad yn rhwymo’r Cwmni, boed fel gwarant neu fel arall, ac ni fydd unrhyw beth ymhlyg yn unrhyw gynrychiolaeth neu ddatganiad o’r fath.
11. HAWLFRAINT
11.1. Eiddo’r Cwmni yw Hawlfraint y cyfieithiad a bydd ond yn cael ei throsglwyddo i’r Cleient ar ôl i’r Cwmni dderbyn taliad llawn am y cyfieithiad. Drwy hyn, mae’r Cleient yn cytuno i roi trwydded i ni (a’n his-gontractwyr) i storio a defnyddio’r deunyddiau gwaith at ddibenion darparu gwasanaeth.
12. CYFRINACHEDD
12.1. Mae’r ddau barti yn cytuno i beidio â defnyddio na datgelu i drydydd partïon unrhyw Wybodaeth Gyfrinachol y parti arall yn amodol ar gymal 12.2, ac er mwyn i ni ddarparu’r Gwasanaethau.
12.2. Caiff y naill barti neu’r llall ddatgelu Gwybodaeth Gyfrinachol y llall:
(i) Pan fo’n ofynnol iddo wneud hynny yn ôl y gyfraith neu gan unrhyw awdurdod rheoleiddio, ar yr amod, pan fo’n ymarferol ac yn gyfreithlon gwneud hynny, bod y parti y mae’n ofynnol iddo ddatgelu’r Wybodaeth Gyfrinachol:
(a) Yn hysbysu’r perchennog yn ddi-oed am unrhyw ofyniad o’r fath; a
(b) Yn cydweithredu â’r perchennog o ran dull, cwmpas neu amseriad y datgeliad hwnnw neu unrhyw gamau y gall y perchennog eu cymryd i herio dilysrwydd gofyniad o’r fath.
(ii) I’w bersonél (neu unrhyw un o’i gwmnïau cysylltiedig), personél is-gontractwr neu unrhyw berson y mae’n rhesymol angenrheidiol gwneud datgeliad o’r fath i’w ddyletswyddau, ar yr amod bod y parti sy’n gwneud datgeliad o’r fath yn sicrhau bod pob un y gwneir datgeliad o’r fath iddyn nhw:
(a) Yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau cyfrinachedd o dan y Telerau ac Amodau hyn; a
(b) Yn cydymffurfio â’r rhwymedigaethau hynny fel pe baent wedi eu rhwymo ganddynt.
13. DIOGELU DATA
13.1. Rhaid i bob parti sicrhau, wrth gyflawni ei rwymedigaethau o dan y Telerau ac Amodau hyn ac unrhyw Gytundeb, y bydd bob amser yn cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Deddf Diogelu Data 2018.
13.2. Mae’r Cwmni’n cydnabod os bydd gofyn i ni brosesu unrhyw ddata wrth ddarparu gwasanaethau a lywodraethir gan y Cytundeb hwn, y byddwn yn gwneud hynny dim ond ar ôl cael cyfarwyddiadau gennych chi ac yn amodol ar eich cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data berthnasol.
14. CYFRAITH BERTHNASOL
14.1. Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli ym mhob ffordd yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr ac mae’r partïon drwy hyn yn ymostwng i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
14.2. Gall y Telerau ac Amodau hyn gael eu newid heb rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw.
CYFIEITHU AR Y PRYD
15. DYFYNBRIS
15.1. Nid yw cael dyfynbris gan Nico yn gwarantu y bydd gan Nico gyfarpar na chyfieithwyr ar gael ar y dyddiadau a nodir oni bai neu hyd nes bod archeb wedi’i gadarnhau gan y Cleient yn ysgrifenedig ac wedi’i dderbyn gan Nico. Bydd y pris a ddyfynnir yn rhwymol am gyfnod o 30 diwrnod calendr. Fodd bynnag, gall gwasanaethau ychwanegol, e.e. trefniadau gosod sy’n gofyn i bersonél Nico weithio rhwng 20.00 a 08.00, newidiadau neu ychwanegiadau i’r system sy’n cael ei llogi gan y Cleient, newidiadau i’r Lleoliad neu ychwanegu Lleoliad newydd ac unrhyw wasanaethau eraill sydd heb eu pennu yn y dyfynbris, arwain at gynnydd mewn pris.
16. FFIOEDD CANSLO
16.1. Cyfieithu ar y pryd a llogi cyfarpar. Os bydd y Cleient yn dymuno canslo neu ohirio Archeb am gyfieithu ar y pryd, gan gynnwys llogi unrhyw gyfarpar, bydd y ffioedd canlynol yn berthnasol:- Rhybudd o fwy nag wythnos ond llai na thair wythnos cyn dyddiad y Digwyddiad, 50% o’r ffi. Rhybudd o lai nag wythnos cyn dyddiad y Digwyddiad, 100% o’r ffi.
16.2. Bydd unrhyw benderfyniad i hepgor y cyfan neu ran o’r ffioedd canslo uchod yn ôl disgresiwn llwyr Nico.
17. ATEBOLRWYDD
17.1. Ym mhob Digwyddiad, gan gynnwys Digwyddiadau lle mae technegydd o Nico yn bresennol, bydd y Cleient yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod i’r cyfarpar a gyflenwir. Gwerth pob clustffon yw £120 +TAW a dyma fydd y swm a anfonebir am bob clustffon a ddifrodwyd neu a gollwyd pe na bai’r cyfarpar yn cael ei ddychwelyd mewn cyflwr gweithio o fewn 10 diwrnod i ddiwedd y Digwyddiad.
17.2. Er gwaethaf unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn y Telerau ac Amodau hyn neu unrhyw Archeb, ac i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Nico yn atebol i’r Cleient am unrhyw: (i) golled o ran elw; (ii) colled o ran busnes; (iii) colled o ran refeniw; na (iv) cholled anuniongyrchol neu ganlyniadol; sy’n deillio yn sgil neu mewn cysylltiad â’r Telerau ac Amodau hyn, y Gwasanaethau nac unrhyw Archeb.
17.3. Yn amodol ar gymal 17.2 ac i’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd atebolrwydd cyfanredol Nico mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod) neu fel arall, sut bynnag fo’n codi, yn sgil neu mewn cysylltiad â’r Telerau ac Amodau hyn, y Gwasanaethau a phob Archeb, yn fwy na’r pris a delir gan y Cleient i’r Cwmni am y Gwasanaethau yn y 12 mis yn union cyn i’r atebolrwydd godi.
17.4. Pan fydd Nico yn gyfrifol am hwyluso cludo ein cyfarpar i safle Digwyddiad ac o Ddigwyddiad, ni fydd yn gyfrifol am unrhyw golledion neu ddifrod i’r cyfarpar sy’n digwydd yn ystod y cludo.
18. CYFIEITHWYR
18.1. Bydd angen brîff llawn arnom gennych chi cyn y Digwyddiad a dylai gynnwys set gyflawn o ddogfennau (rhaglen, agenda, sgript, cofnodion cyfarfodydd blaenorol, adroddiadau, crynodebau, areithiau, ac ati) lle bo’r rhain ar gael ym mhob un o’r ieithoedd gwaith mor bell o flaen llaw cyn y Digwyddiad ag sy’n bosib, ac mewn unrhyw achos heb fod yn hwyrach na 7 diwrnod cyn dyddiad y Digwyddiad. Eich cyfrifoldeb chi yw cynhyrchu’r ddogfennaeth hon ac os nad yw’n cael ei chynhyrchu mewn da bryd, ni allwn ni a/neu’n cyfieithwyr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd y Gwasanaethau a gyflenwir. Ni fydd unrhyw gŵynion am ansawdd y cyfieithu ar y pryd na’r lleisio’n cael eu cydnabod os na fydd y deunyddiau hyn ar gael cyn yr aseiniad. Rydych chi’n gwarantu na fydd yr holl ddogfennaeth a’r wybodaeth a gyflenwir gennych chi i ni yn peri i Nico dorri cyfreithiau unrhyw wlad.
18.2. Os bydd Cyfieithydd yn sâl, yn cael anaf neu’n absennol cyn neu yn ystod aseiniad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i gyflenwi un arall, ond nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am fethu â gwneud hynny.
18.3. Oni nodir fel arall yn ein dyfynbris, mae ffioedd cyfieithwyr ar y pryd yn cynnwys gweithio rhwng 09.00 a 17.00 gyda seibiannau byr yn y bore a’r prynhawn, a thoriad o awr o leiaf i ginio.
18.4. Gall ffioedd ychwanegol gael eu codi am waith a wneir ar unrhyw adeg arall neu o dan unrhyw amodau eraill, a rhaid cytuno ar hynny gyda ni naill ai ymlaen llaw neu ar adeg y Digwyddiad neu gyda’n personél ar y safle.
19. LLEOLIAD YR ASEINIAD
19.1. Oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau:
(i) Bod mynediad ar gael i Nico i’r Lleoliad mewn da bryd er mwyn ein galluogi ni i osod a phrofi’r cyfarpar.
(ii) Bod y Lleoliad wedi’i osod yn briodol ar gyfer gosod ein cyfarpar, gydag unrhyw lwyfannau neu fyrddau yn eu lle.
(iii) Bod pob cyfarpar, ar ôl ei osod, yn aros yn ei le ac, ar gyfer y cyfnod llogi, na fydd angen defnyddio’r Lleoliad at ddibenion eraill (e.e. ciniawau, dawnsfeydd, derbyniadau, ac ati) a fyddai’n golygu bod angen datgymalu ac ailosod y cyfarpar.
(iv) Bod y Cleient yn cymryd rhagofalon i sicrhau bod y Lleoliad a chyfarpar Nico yn ddiogel tra bydd yno.
(v) Bod digon o amser ar gael ar ddiwedd y trafodion i ddatgymalu a symud y cyfarpar.
20. FORCE MAJEURE
20.1. Ni fydd Nico yn atebol i’r Cleient os bydd force majeure yn atal neu’n rhwystro’r Cwmni rhag cyflawni ei rwymedigaethau o dan y contract. At ddibenion yr amod hwn, mae force majeure yn golygu unrhyw amgylchiad y tu hwnt i reolaeth Nico.
21. DIFFYG NEU DOR-AMOD
21.1. Heb leihau effaith hawliau Nico (gan gynnwys heb gyfyngiad, ei hawl i gasglu ôl-ddyledion ffioedd sy’n ddyledus o dan y contract hwn neu am symiau eraill sy’n ddyledus neu am iawndal am dorri’r contract hwn), gall Nico ganslo’r Archeb a rhoi’r gorau i ddarparu unrhyw Wasanaethau ar unwaith heb unrhyw atebolrwydd i’r Cleient os digwydd unrhyw un o’r amgylchiadau canlynol:
(i) Os bydd y Cleient yn torri unrhyw un o’r Telerau ac Amodau yma.
(ii) Os bydd y Cleient yn gwneud neu’n achosi unrhyw beth a allai niweidio neu beryglu ein hawliau eiddo gyda chyfarpar sydd wedi’i logi.
(iii) Os gwneir gorchymyn methdalu yn erbyn y Cleient.
(iv) Os caiff y Cleient ei ddirwyn i ben neu bod deiseb dirwyn i ben yn cael ei chyflwyno iddo, neu os cyflwynir penderfyniad ar gyfer dirwyn i ben yn wirfoddol.
(v) Os bydd derbynnydd neu weinyddwr yn cael ei benodi ar gyfer y Cleient.
(vi) Os bydd y Cleient yn galw cyfarfod o gredydwyr neu’n gwneud gweithred benodi neu fel arall yn cymodi gyda’i gredydwyr.
(vii) Os bydd unrhyw gamau’n cael eu cymryd i atafaelu neu weithredu neu os bydd bygythiad o atafaelu neu weithredu yn erbyn unrhyw un o declynnau’r Cleient neu sydd ym meddiant y Cleient.
(viii) Os bydd y Cleient yn gadael y cyfarpar; pan fyddwn wedi cydsynio i’r cyfarpar fod ym meddiant y Cleient bydd yn cael ei benderfynu ar unwaith a gallwn gymryd meddiant o’r cyfarpar ym mha le bynnag y mae, ac i’r diben hwn rydym wedi ein trwyddedu i fynd i unrhyw fangre sydd wedi’i meddiannu neu o dan reolaeth y Cleient, unrhyw dderbynnydd neu weinyddwr a benodir mewn cysylltiad â materion y Cleient neu unrhyw gredydwr i’r Cleient. Canlyniadau unrhyw ddiffyg neu dor-amod o’r fath yw y bydd y Cleient yn atebol am unrhyw gostau a threuliau a ddaw i ran Nico wrth ddod o hyd i, adfeddiannu, adennill neu adfer y cyfarpar neu unrhyw daliadau eraill sy’n ddyledus o dan y Telerau ac Amodau hyn.
22. RECORDIO
22.1. Dylech roi gwybod i ni ymlaen llaw os oes angen recordiad arnoch sy’n cynnwys y cyfieithu ar y pryd gan y gall hyn fod yn destun ffi ildio hawlfraint arferol ac y byddai angen cytuno arni ymlaen llaw.
23. AMODAU
23.1. Bernir bod y Telerau ac Amodau hyn wedi eu hymgorffori ym mhob contract a wneir gan Nico, a bernir bod pob gwaith perthnasol a wneir gan Nico wedi’i gyflawni yn unol â chontract sy’n ymgorffori’r Telerau ac Amodau hyn. Mae pob un o ddarpariaethau’r Telerau ac Amodau hyn i’w dehongli fel darpariaeth ar wahân sy’n gymwys ac yn cael blaenoriaeth hyd yn oed os bydd un neu’r llall o’r darpariaethau, am unrhyw reswm, yn cael eu barnu’n amherthnasol neu’n afresymol o dan unrhyw amgylchiadau.
24. AWDURDODAETH
24.1. Bydd y contract yn cael ei lywodraethu a’i ddehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
Gall y Telerau ac Amodau hyn gael eu newid heb rybudd ysgrifenedig ymlaen llaw.