Pam dewis yr enw Nico?

Wel, mae’r enw’n dod o lythrennau enwau aelodau cychwynnol y cwmni, ac wrth chwilio am enw syml a bachog, roedd Nico yn gweddu i’r dim. Wrth gwrs, roedden ni hefyd yn meddwl am yr aderyn bach hwnnw, y nico, fu unwaith yn gennad i’r bardd Cynan yn y gerdd hiraethus ‘Anfon y Nico’. 

Cofiwch chi, mae gan yr aderyn hwnnw lu o enwau mwy deniadol byth: Teiliwr Llundain, Soldiwr Bach y Werddon, Pen Shidan, Eurbinc a mwy! Ond nico yw’r creadur bach i ni – a dyna egluro’n logo bach ni hefyd.

Aderyn bach cymdeithasol â chân fach hyfryd yw’r nico, a’n gobaith ni yw ein bod ni hefyd yn rhannu’r un rhinweddau da! Ewch i weld mwy amdanon ni.