Polisi Preifatrwydd


Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 16, 2023

Pwy yw Nico?

Cwmni sy’n darparu ystod o wasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau ymgynghorol arbenigol yw Nico.

Pa fanylion sydd gennym a sut fyddwn ni’n eu defnyddio?

Mae eich manylion yn rhan o gronfa ddata sydd gennym a ddefnyddir at un diben yn unig, sef rhoi gwybod i chi am gynnyrch a gwasanaethau Nico a/neu rannu newyddion neu wybodaeth am ein gwaith. Mae’r gweithgarwch hwn yn perthyn i gategori “diddordeb busnes cyfreithlon” y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Y manylion sydd gennym yw eich enw, eich cyfeiriad e-bost yn y sefydliad rydych yn gweithio iddo a chyfeiriad post y sefydliad.

Pwy sy’n gallu cael mynediad at eich manylion?

Mae’r manylion i gyd yn cael eu cadw’n ddiogel ar ein gweinyddion, a dim ond Cyfarwyddwyr Nico sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth am ein cynnyrch a’n gwasanaethau sy’n gallu cael mynediad atynt. Pan fyddwn ni’n anfon neges e-bost mewn swmp, bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu llwytho i wefan darparwr gwasanaethau e-bostio mewn swmp, drwy system mewngofnodi diogel. Y darparwr fydd MailChimp ac mae modd darllen eu polisi preifatrwydd nhw yma. Ni fydd eich manylion yn cael eu rhannu gydag unrhyw sefydliad arall.

Eich hawliau

Bydd eich manylion yn cael eu cadw tra bydd Nico yn parhau i farchnata ei gynnyrch a’i wasanaethau, ond os ydych yn dymuno cael eich dileu o’n cronfa ddata ar unrhyw adeg, gallwch anfon neges e-bost i post@nico.cymru i roi gwybod i ni. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ‘ddad-danysgrifio’ o unrhyw weithgarwch marchnata pellach gyda phob neges y byddwn yn ei hanfon. Yn ogystal, mae gennych hawl:

  • i gael mynediad at unrhyw ddata sydd gennym amdanoch
  • i gywiro unrhyw wallau yn y data sydd gennym amdanoch
  • i gyfyngu ar unrhyw brosesu ar y data sydd gennym amdanoch.


Mae hefyd yn bosib gwneud hyn drwy anfon neges e-bost i post@nico.cymru neu drwy ysgrifennu at ein swyddfa gofrestredig: Nico, 18 Chargot Road, Caerdydd CF5 1EW.

Os nad ydych chi’n fodlon ag ymateb Nico, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith, gallwch gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef yr awdurdod goruchwyliol ar gyfer materion diogelu data (https://ico.org.uk/). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi’r cyfle i ddatrys eich pryderon cyn i chi fynd at yr ICO, felly gofynnwn i chi gysylltu â ni yn y lle cyntaf.